Diweddariad Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar yr ymatebion a roddwyd i argymhellion y Pwyllgor Menter a Dysgu yn yr adroddiad: Pobl Ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant

 

Mae mynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc yn dal i fod yn un o’m prif flaenoriaethau. Rwy’n croesawu’r cyfle i roi diweddariad i chi ar sut mae’r mesurau a amlinellwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2010 i Adroddiad Pwyllgor Craffu Menter a Dysgu yn cael eu gweithredu a hefyd y cyfle i drafod yr hyn rydyn ni’n ei wneud i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

 

Mae’n bleser gen i gyhoeddi bod Is-adran Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid wedi’i chreu o fewn yr Adran Addysg a Sgiliau. Bydd yr Is-adran hon yn dod â meysydd polisi allweddol at ei gilydd i roi cymorth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

 

Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru’n dal i gynyddu gyda mwy na phumed ran y bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed yn ddi-waith. Rydyn ni wedi rhoi rhai mentrau allweddol ar waith i roi cymorth i gyflogaeth ieuenctid dros y 12 mis diwethaf:

 

 

 

 

·         Fel rhan o Raglen y Llywodraeth, rhoddwyd dwy raglen gyflogadwyedd newydd ar waith ym mis Awst 2011: Hyfforddeiaethau i rai 16-18 oed a Camau at Waith i oedolion 18+ oed. Bydd y rhaglenni hyn yn rhoi cymorth i bobl ifanc fagu hyder a chymhelliant, i wella eu sgiliau ac i gael profiad gwaith i’w galluogi i gael cyflogaeth barhaol.

 

 

 

 

 

Rwy’n diolch i’r pwyllgor am y cyfle i roi diweddariad ar weithredu mesurau i gefnogi ymgysylltu a chyflogaeth ieuenctid i ymateb i argymhellion Adroddiad Hydref 2010 fel y’u nodir isod.

 

Argymhelliad 1. Argymhellwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru barhau i sicrhau, drwy weithio gyda Llywodraeth y DU lle y bo’n briodol, bod prif ddata a data lleol sy’n ymwneud â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth mor gynhwysfawr, cadarn a chyfredol â phosibl.

Argymhelliad 3. O gofio bod pobl ifanc anabl ddwywaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl, argymhellwn y dylai cyhoeddiadau ystadegol Llywodraeth Cynulliad Cymru ddadansoddi data yn rheolaidd mewn perthynas ag anabledd a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

 

Diweddariad ar argymhellion 1 a 3

 

Cyhoeddir penawdau data am bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth drwy gyfres o gyhoeddiadau ystadegol gan adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir ein mesur penawdau blynyddol mewn Datganiad Ystadegol Cyntaf ym mis Gorffennaf bob blwyddyn. Yn 2009, cyflwynon ni adroddiad ystadegol chwarterol newydd oedd yn crynhoi’r data diweddaraf o amrywiaeth o ffynonellau, yn ymwneud â phobl ifanc nad ydynt mewn addysgu, hyfforddiant na chyflogaeth. Roedd hwn yn cynnwys data chwarterol mwy amserol, ond yn llai cadarn yn ystadegol, i ddangos y tueddiadau diweddaraf. Mae’r wybodaeth a gyhoeddwyd ddiwethaf am y flwyddyn yn gorffen mis Medi 2011 a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2012. 

 

O gofio bod ffynhonnell y wybodaeth hon yn defnyddio data arolygon fel arfer, wrth edrych ar is-grwpiau o’r boblogaeth, fel pobl ifanc anabl, mae’r data’n mynd yn llai cadarn ac yn amodol ar wallau samplu i raddau helaethach. Fodd bynnag, wrth ymateb i’r argymhelliad hwn ac adborth arall gan ddefnyddwyr, cyhoeddodd y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Erthygl Ystadegol “Dadansoddiad Pellach o ddata yn ymwneud â Phobl Ifanc Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant” ym mis Mawrth 2012. Rhoddodd yr Erthygl hon ddadansoddiad manylach o nodweddion y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant mewn perthynas ag anabledd. Hefyd tynnodd sylw at rai o’r materion ynghlwm wrth ansawdd y data. 

 

Argymhelliad 2. Gwnawn argymhelliad pellach y caiff prif ddata a data lleol ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ei roi yn rheolaidd i bob asiantaeth sydd â rôl i’w chwarae mewn perthynas â datrys y broblem o sicrhau y caiff mesurau rhagweithiol ac adweithiol eu blaenoriaethu.

Argymhelliad 4. Argymhellwn y dylai’r Gweinidog, fel rhan o adolygiad Gyrfa Cymru, geisio gwella ei berfformiad o ran rheoli cofrestr genedlaethol gyson a chynhwysfawr o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a chynnal cronfa ddata hefyd sy’n gallu dod o hyd i swyddi gwag addas i bobl ifanc ddi-waith. Argymhellwn ymhellach y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru barhau i fonitro perfformiad yn y maes hwn.

 

 

Diweddariad ar argymhellion 2 a 4

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru arweiniad yn 2002 (Ymestyn Hawliau: cynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru) o dan adran 123 Deddf Dysgu a Sgiliau, 2000. Mae Atodiad 12 yr Arweiniad hwnnw, “Cadw mewn cysylltiad” yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol yn sefydlu ac arwain trefniadau amlasiantaethol i gadw mewn cysylltiad â phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio neu wedi dadrithio oddi wrth ddysgu, neu rai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu sydd mewn perygl o fod felly. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid gynorthwyo’r bobl ifanc hyn i’w helpu i ailgysylltu â dysgu, cyflogaeth a/neu ddinasyddiaeth weithgar. Wrth wneud hyn bu disgwyl y byddai’r awdurdodau lleol a’u partneriaid yn rhannu ac yn gwneud y defnydd gorau o’r data sydd ar gael iddyn nhw (mae Atodiad 11 yr Arweiniad yn cyfeirio at Rannu Data).

 

Yn ymarferol, mae ymateb yr awdurdodau lleol i’r gofyniad hwn wedi amrywio o ran maint eu brwdfrydedd a’u llwyddiant. Soniwyd weithiau am anawsterau wrth rannu data rhwng asiantaethau. Rwyf wrthi’n gweithio ar hyn o bryd gyda fy swyddogion i weld beth yw’r ffyrdd fwyaf effeithiol o gryfhau’r gofyniad sydd i awdurdodau lleol/consortia addysgol rhanbarthol ymgymryd â’r rôl hon yn rhagweithiol.

 

Rwyf hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o gael systemau rhannu / olrhain data Cymru gyfan, sydd wedi’u cysylltu â threfniadau gwybodaeth presennol ysgolion a cholegau addysg bellach. Ceir rhagor o fanylion am y gwaith sydd ar y gweill i nodi dangosyddion rhagfynegi i bobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio yn y diweddariad i argymhelliad 5.

 

Ar hyn o bryd rydyn ni’n drafftio arweiniad newydd ar Wasanaethau Cymorth Ieuenctid a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i asiantaethau ac awdurdodau lleol ddefnyddio dull mwy cydlynus ac wedi’i dargedu i gynorthwyo’r bobl hyn nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, neu sydd mewn perygl o fod felly.

 

Argymhelliad 5. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru werthuso dulliau awdurdodau lleol a rhanbarthol o fynd i’r afael â phroblem pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant er mwyn llunio model a chanllawiau arfer gorau ar gyfer darparu a monitro gwasanaethau effeithiol.

Argymhelliad 6. Argymhellwn y dylai’r gwaith o lunio canllawiau clir, amlasiantaethol i sicrhau bod ymarferwyr yn defnyddio dull cynnar, cyson a holistaidd o nodi’r rheini sydd mewn perygl o adael addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant fod yn un o ganlyniadau adolygiad y Gweinidog o’r cymorth a roddir gan ei Adran i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac y dylid ymyrryd yn briodol ar gam cynnar.

 

Diweddariad ar argymhellion 5 a 6

 

Rwyf eisoes wedi rhannu â’r Pwyllgor fy marn bod “atal llif” y bobl ifanc sy’n eu cael eu hunain heb waith, cyflogaeth na hyfforddiant yn 16 nid yn unig yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r niferoedd yn y tymor hir ond hefyd yn un o’r heriau mwyaf i Lywodraeth Cymru o ran ein polisïau, ac i ysgolion ac awdurdodau lleol o ran cyflenwi.

 

Yn rhan o brosiect ymchwil Cadw mewn Cysylltiad, gwneir adolygiad o lenyddiaeth gan y Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi i nodi systemau sy’n effeithiol wrth nodi, o oedran cynnar, pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio o gyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Mae llenyddiaeth o’r Unol Daleithiau’n awgrymu ei bod hi’n bosibl nodi pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio yn gywir hyd at 85% gan ddefnyddio dangosyddion cyflawniad, presenoldeb ac ymddygiad yn yr ysgol.

 

Nod menter Teuluoedd yn Gyntaf yw datblygu gwasanaeth cymorth di-dor i deuluoedd ynghyd â rhaglenni eraill fel Dechrau’n Deg, Cymunedau’n Gyntaf a’r Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd. Derbyniodd Llywodraeth Cymru Gynlluniau Teuluoedd yn Gyntaf gan bob awdurdod lleol ym mis Hydref 2011.

 

Argymhelliad 7. Argymhellwn y dylai Llywodraeth y Cynulliad adolygu pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol yn rhoi gofynion statudol cyfredol ar waith i ategu addysg unigolion sy’n gadael gofal cyn iddynt gyrraedd 25. Dylai’r adolygiad gynnwys tystiolaeth gan unigolion sy’n gadael gofal ac sy’n rhan o systemau addysg bellach ac addysg uwch a’r rheini nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

 

Diweddariad

 

Cyn hir bydd yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant yn ymgynghori ar ddatblygu cynllun newydd i bobl ifanc i’w cynorthwyo wrth iddynt drosglwyddo o ofal i fyw’n annibynnol ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Fel rhan o’r ymgynghoriad hwnnw bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio codi’r oedran y gall pobl ifanc ailgysylltu â gofal i 25 oed a hefyd bydd yn galluogi bod cynghorydd personol ar gael i’r bobl ifanc hynny.

 

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r Gronfa Loteri Fawr, yn rhan o’r Cynllun Cyfrifon Segur i Gymru, i gytuno ar fanyleb ar gyfer Rhaglen Ymgysylltu Ieuenctid fel y gall grwpiau o bobl ifanc agored i niwed 16/17 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i gael cyfleoedd lleoliad gwaith gyda thâl am 25 wythnos. Bydd Rownd 1 y rhaglen hon yn targedu’r rhai sy’n gadael gofal a phobl ifanc yn y system cyfiawnder cymdeithasol a bydd yn eu galluogi i symud yn nes at gyflogaeth a / neu bydd yn codi eu dyheadau a’u disgwyliadau i gael addysg bellach neu hyfforddiant neu i symud i gyflogaeth barhaol am dâl.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid blynyddol wedi’i dargedu o £1 filiwn y flwyddyn dros y 6 blynedd diwethaf i godi cyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal. Mae’r cyllid ar gyfer 2012-13 wedi’i gynnwys yn rhan o’r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion. Mae’r canllawiau ar gyfer gweithredu’r grant yn dweud ein bod ni’n disgwyl i bob Consortiwm gynllunio sut maen nhw’n paratoi at addysg plant sy’n derbyn gofal. O’r flwyddyn academaidd hon rydym wedi darparu bwrsari o £2,000 i bob un sy’n gadael gofal sy’n mynd i addysg uwch.

 

Mae ehangu mynediad i ddysgwyr sy’n agored i niwed yn hanfodol i’n gweledigaeth i  ddarparu Addysg Bellach yng Nghymru. Rydym yn annog darparwyr Addysg Bellach a thimau Gadael Gofal i gydweithredu. Mae hyn yn arwain at ddeall yn well anghenion ac amgylchiadau ein dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed ac mae trefniadau mwy hyblyg yn cael eu rhoi yn eu lle i’r rhai sy’n gadael gofal ennill cymwysterau ac felly wella eu cyfleoedd bywyd.

 

Rydym wedi cyfranogi wrth sefydlu safonau’r DU i rai mewn darpariaeth Addysg Bellach sy’n gadael gofal ac yn weithgar wrth annog pob darparwr Addysg Bellach i ymgyrraedd at y safonau hyn a’u cyflawni.

 

Argymhelliad 8. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried y ffordd orau o ehangu ac ariannu arferion gorau rhaglenni a gynhelir gan sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru, mewn cydweithrediad â rhaglenni awdurdodau lleol ac awdurdodau ysgolion ac i ategu’r rheini.

Argymhelliad 12. Fel rhan o’n gwerthusiad a argymhellwyd o ddulliau awdurdodau lleol a rhanbarthol o ddelio â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, argymhellwn y dylai Gweinidogion Cymru bennu asiantaeth arweiniol yn lleol ar gyfer bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Dylai’r asiantaeth hon gydlynu partneriaethau, nodi cyfrifoldebau, rheoli taith pobl ifanc rhwng un cam a’r llall a monitro perfformiad. 

 

Diweddariad ar argymhellion 8 a 12

 

Yr Is-Adran Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid fydd yn arwain yr Adolygiad o weithgareddau i helpu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Nod yr Adolygiad fydd gweld sut gellir cydredeg yr adnoddau hyn â’r ymyriadau hynny sy’n cael yr effaith fwyaf. Mae ychydig o waith mapio cychwynnol ar lefel awdurdodau lleol sydd wedi cael ei gomisiynu’n rhan o’r Adolygiad 14-19 cyffredinol. Yn ogystal, bydd yr Adolygiad yn cynnwys gwaith i egluro rolau, systemau llwybro a phrotocolau rhannu gwybodaeth.

 

I lawer o bobl ifanc nad ydynt yn ymgysylltu â dysgu yn yr ysgol, mae cymorth dysgu heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol yn y gymuned, gan gynnwys gwaith cymdeithasol, yn gallu bod yn ddull gwerthfawr o ran eu helpu i fagu hunanhyder, hunan-barch ac yn y pen draw i ailymgysylltu â dysgu ffurfiol, cyflogaeth, hyfforddiant neu ddinasyddiaeth weithgar.

 

O dan Arweiniad i Wasanaethau Cymorth Ieuenctid 2002, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol weithio gydag amrediad eang o bartneriaid statudol a’r sector gwirfoddol i gynllunio a sicrhau bod darpariaeth amrywiol yn y gymuned i ateb anghenion pob person ifanc.

 

Dylai hyn gynnwys trefniadau lleol i gefnogi gweithgarwch gan gyrff fel Cynllun Gwobr Dug Caeredin, Urdd Gobaith Cymru ac Ymddiriedolaeth y Tywysog sy’n gallu rhoi cefnogaeth arbenigol i bobl ifanc oresgyn y rhwystrau i ddysgu ac maen nhw’n aml yn gallu sicrhau cyllid allanol ychwanegol o ffynonellau nad ydyn nhw ar gael i awdurdodau lleol/ysgolion.

 

Yn ymarferol, mae’r ddarpariaeth yn amrywio, ac yn aml mae ysgolion naill ai heb fod yn ymwybodol o’r hyn sydd gan y trydydd sector i’w gynnig, neu nid ydynt yn deall yr hyn y gall ei wneud i helpu eu myfyrwyr, ac nid ydynt yn manteisio’n llawn arno.

 

Credaf fod gan y trydydd sector lawer iawn i’w gynnig i bobl ifanc yn y maes hwn, ac fel arfer mae’n ddarparwr cost-effeithiol. Rwy’n mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffyrdd o annog ysgolion a darparwyr dysgu yn y gymuned i gydweithio’n fwy clòs i ateb anghenion pob person ifanc, ac yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o fod yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. O ran pobl ifanc hŷn a rhai nad ydynt eisoes mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, mae gan gyrff trydydd sector fel Ymddiriedolaeth y Tywysog, Fairbridge De Cymru a Llamau, i enwi tri’n unig, lawer i’w gynnig o ran cynorthwyo ac rwyf wedi gofyn am gyngor fy swyddogion o ran gweld sut gellir ei ddefnyddio’n fwy effeithiol.

 

Mae’r Arweiniad yn cael ei adolygu ar hyn o bryd; bydd y fersiwn ddiwygiedig yn egluro fy nisgwyliadau o ran y graddau llawer helaethach y bydd ysgolion a darparwyr trydydd sector yn y gymuned yn cydweithredu yn y dyfodol.

 

Argymhelliad 9. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector er mwyn cynnwys cyflogwyr ar gam cynnar wrth weithio gyda dysgwyr, hyfforddwyr dysgu ac eraill er mwyn sefydlu dull mwy cydgysylltiedig o helpu pobl ifanc i sicrhau cyfleoedd cyflogaeth neu brentisiaeth, ac yn arbennig o ran darparu cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Diweddariad

 

Mae’r cysyniad Llwybrau newydd at Waith y cyfeiriwyd ato yn ein hymateb yn cael ei ddatblygu drwy amrywiaeth o fentrau megis Twf Swyddi Cymru (y cyfeiriwyd ato uchod). Yn ogystal mae prosiect peilot Marchnad Lafur Drosiannol a ddarparwyd drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) sy’n gweithio gyda chyrff a all gefnogi a datblygu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Mae’r cyrff sy’n cael eu contractio’n darparu 26 wythnos o waith am dâl a’r nod yw symud y bobl ifanc hyn ymlaen at waith parhaol neu ddysgu pellach ar lefel uwch.

 

Mae dewisiadau’n cael eu datblygu ar hyn o bryd i roi trefniadau amlasiantaethol yn eu lle ar lefel consortia rhanbarthol i nodi’r bobl ifanc 11-25 oed sydd ag angen cymorth ychwanegol neu ddwys. Bydd gofyn i’r dewisiadau hyn gael eu hystyried ymhellach ar draws Llywodraeth Cymru, gennyf i a Gweinidogion perthnasol eraill, a bydd angen eu trafod hefyd â rhanddeiliaid allanol. Byddan nhw’n golygu bod asiantaeth arweiniol a nodwyd - fwy na thebyg y consortiwm rhanbarthol - yn cydweithredu ag amrediad o bartneriaid i weld pa un/rai yw’r gwasanaeth/au mwyaf priodol i ateb angen pobl ifanc unigol a sicrhau bod pob person ifanc yn cael pa bynnag gymorth sydd ei angen arno i ymgysylltu â rhaglen ddysgu strwythuredig a chydlynus a symud ymlaen drwyddi tuag at nod yn y pen draw o fod yn gyflogedig, yn “barod at waith” neu’n ymgysylltu’n gynhyrchiol ac yn rheolaidd mewn dinasyddiaeth weithgar. Gall fod mwy o rôl i’r Gwasanaethau Ieuenctid statudol lleol a’r sector gwirfoddol sydd â’r profiad, y seilwaith a’r arbenigedd i ddarparu dysgu anffurfiol a heb fod yn ffurfiol wrth ddarparu cymorth personol.

 

Bydd y system hon, rydym yn cyfeirio ati dros dro fel “trefniadau broceriaeth” yn cadarnhau ac yn adeiladu ar brosesau Cadw mewn Cysylltiad i roi cymorth i bobl ifanc a bydd yn cynnwys ysgolion a phartneriaid yn y gymuned hefyd.

 

Argymhelliad 10. Argymhellwn y dylai un Gweinidog arwain y gwaith o gydlynu strategaeth a chynlluniau gweithredu, monitro’r gwaith o weithredu hyn a bod yn atebol ar lefel genedlaethol gan fod pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn fater sy’n berthnasol i nifer o Adrannau a pholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Diweddariad

 

Yn ychwanegol at ein hymateb a roddwyd yn flaenorol mae Llywodraeth Cymru bellach wedi sefydlu Is-Adran Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid o fewn yr Adran Addysg a Sgiliau a fydd yn arwain wrth lywio polisi a gweithgarwch sy’n cynorthwyo pobl ifanc i mewn i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru. Bydd yn sicrhau cydlyniaeth o ran ymagwedd gyffredinol yr adran tuag at ymgysylltu a chyflogaeth ieuenctid a bydd yn datblygu ac yn adeiladu ar weithio gyda meysydd polisi allweddol eraill ar draws Llywodraeth Cymru.

 

Argymhelliad 11. Argymhellwn y dylai Gweinidogion Cymru arolygu a diweddaru’r strategaeth gyfredol ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant fel ei bod yn cwmpasu’r grŵp oedran 16 i 25, ac y dylent gyflwyno targed cenedlaethol newydd ar gyfer lleihau cyfran y bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gan sicrhau bod holl Adrannau perthnasol y Llywodraeth yn gyfrifol am ei gyflawni.

 

Diweddariad

 

Rhoddodd Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid 2011 sydd wedi’i gyhoeddi set ehangach o gamau gweithredu i gynorthwyo pobl ifanc 11-25 oed na strategaeth 2009 oedd yn cynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Bydd yr Is-Adran Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid yn arwain wrth sefydlu Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid diwygiedig, yng ngoleuni Rhaglen y Llywodraeth a’r angen am leihau ymhellach niferoedd y bobl ifanc sydd, neu sydd mewn perygl o fod yn rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

 

Argymhelliad 13. Argymhellwn y dylai Gweinidogion adolygu digonolrwydd y trefniant cyfansoddiadol presennol ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Ganolfan Byd Gwaith mewn cyd-destun datganoledig a gweithio gyda’u swyddogion cyfatebol yn y DU i wneud y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod y trefniant yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

Argymhelliad 14. Argymhellwn y dylai Gweinidogion Cymru weithio gyda chydweithwyr yn y DU i sicrhau bod cynghorwyr personol a gweithwyr allgymorth yn ffurfio rhan ganolog, yn hytrach na rhan ymylol, o weithgarwch y Ganolfan Byd Gwaith er mwyn gwella effeithiolrwydd ei rhaglenni ymgysylltu.

Argymhelliad 15. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau na fydd yr unigolion mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso ac y caiff y rheini sydd â’r angen mwyaf eu blaenoriaethu ar gyfer cymorth dwys os bydd nifer fawr o bobl ifanc ddi-waith yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhaglen Waith yn y dyfodol.

 

Diweddariad

 

Mae Llywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi nodi uchelgais ar y cyd ar gyfer cynllunio ac integreiddio gwell i raglenni cyflogaeth, sgiliau ac eraill er mwyn lleihau nifer y bobl sy’n ddi-waith neu sydd heb fod yn economaidd weithgar, i godi enillion y rhai sydd mewn gwaith ac i wella gwasanaethau i gyflogwyr. Mae egwyddorion craidd sut eir ymlaen â hyn yn ‘Fframwaith y Farchnad Lafur i Gymru’.

 

Er mwyn gwneud cynnydd tuag at hyn, mae’r Cyd-fwrdd Cyflenwi Rhaglenni Cyflogaeth

i Gymru wedi cytuno ar Gynllun Gweithredol ar y Cyd sy’n nodi amcanion ar lefel uchel a chamau gweithredol i helpu i gynllunio a chyflenwi polisïau a gwasanaethau yng Nghymru, gyda’r nod o gael llawer mwy o gydredeg, symleiddio, effeithlonrwydd, ac integreiddio rhaglenni cyflogaeth, sgiliau ac eraill.

 

Argymhelliad 16. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio gydag asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gydlynu’r gwaith o ddarparu prosiectau a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a phrosiectau nad ydynt yn cael eu hariannu gan yr UE ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant er mwyn meithrin diwylliant o gydweithredu yn hytrach na diwylliant cystadleuol.

 

Diweddariad

 

Mae gan Lywodraeth Cymru barch mawr at bwysigrwydd partneriaethau dilys a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i sicrhau bod y rhaglenni Ewropeaidd newydd yn mynd i’r afael â’r prif heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu Cymru ac sy’n cael eu cyflwyno’n llwyddiannus. Her allweddol fydd defnyddio cyllid Ewropeaidd yn effeithiol i gyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru ym meysydd iechyd, addysg, hyfforddiant a darparu seilwaith i ddileu’r rhwystrau i bobl ifanc sy’n mynd i mewn i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

 

Cyflwynwyd Fframweithiau Strategol yn rownd 2007-2013 y rhaglenni Ewropeaidd i gwrdd â’r ymrwymiad i fabwysiadu dull mwy strategol wrth ddefnyddio cyllid ac un sy’n sicrhau bod cydredeg llawer mwy clòs â pholisïau Llywodraeth Cymru. Mae’r Fframweithiau presennol yn nodi’r mathau o ymyriadau a fydd yn cyflenwi’r blaenoriaethau orau a’u bwriad yw:

·         cryfhau’r cydredeg strategol rhwng polisïau’r UE a Llywodraeth Cymru;

·         cynnig dull mwy cydlynus fel bod modd defnyddio adnoddau’n well a manteisio i’r eithaf ar botensial Cronfa Gymdeithasol Ewrop o ran cysylltu’n uniongyrchol â chanlyniadau gwell i bobl ifanc;

·         cynorthwyo wrth leihau maint cyffredinol y prosiectau;

·         helpu i lunio a chydbwyso’r modd y mae rhaglenni’n cael eu cyflenwi.

 

Argymhelliad 17. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu sut y gellid rhoi rhagor o gydnabyddiaeth i ddatblygu “sgiliau meddal” pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a’r rheini sydd mewn perygl o fod yn un o’r bobl hynny mewn lleoliadau addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.   

 

Diweddariad

 

Mae “Dangos Llwyddiant” yn ddull o fesur canlyniadau dysgu heb fod yn ffurfiol i bobl ifanc. Mae’n ddull trylwyr, a wnaed yng Nghymru ac a brofwyd yn academaidd.

 

Mae model Dangos Llwyddiant yn cydnabod pwysigrwydd Sgiliau a Thueddiadau Cymdeithasol ac Emosiynol wrth alluogi pobl ifanc i ddatblygu a chyflawni cydnabyddiaeth fwy ffurfiol megis cymwysterau ac achredu. Nod nifer o raglenni ymyriad a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw rhoi amrywiaeth o sgiliau i bobl ifanc a all gyfrannu i’w llwyddiant addysgol a’u lles ehangach. Mae tystiolaeth gynyddol sy’n dangos bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau hyn mewn pobl ifanc yn ogystal â chymwysterau ffurfiol.

 

Mae Dangos Llwyddiant yn ymwneud â chipio tystiolaeth am gynnydd yn y sgiliau hynny ac mae wedi cael derbyniad da gan randdeiliaid. Mae’r fframwaith yn hyblyg i raddau helaeth a gellir ei addasu i’w ddefnyddio gydag ymyriadau tymor byr neu hir. Mae’n bosib defnyddio Dangos Llwyddiant yn ehangach yn y dyfodol i fesur y pellter a deithiwyd/cynnydd gan berson ifanc, yn enwedig ar y cyd â’r trefniadau broceriaeth a ddisgrifiwyd yn niweddariad yr ymateb i argymhelliad 9 uchod.

 

Argymhelliad 18. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod hyfforddwyr ymgysylltu neu allgymorth ar gael i ymyrryd ar unrhyw gam yn ystod bywyd person ifanc i roi cymorth uniongyrchol ar ystod o faterion sy’n gysylltiedig â theulu, arian, addysg, cyflogaeth neu iechyd.

 

Diweddariad

 

Bu datblygiadau arwyddocaol o fewn elfen hyfforddwyr dysgu Llwybrau Dysgu 14-19. Mae rôl yr hyfforddwr dysgu mewn Ysgolion Uwchradd a Cholegau a gynhelir wedi cael ei hegluro, drwy arweiniad statudol, yn swyddogaeth y gellir ei darparu gan unigolyn neu gan dîm ac y gellir ei gyflenwi i unigolion neu grwpiau, yn dibynnu ar anghenion pob dysgwr. Mae rôl yr hyfforddwr dysgu wedi cael ei hestyn hefyd i’r rhaglen Prentisiaethau newydd ac mae’n rhan o’r trefniadau contractiol â’r darparwyr. Mae ffocws yr hyfforddiant dysgu ar roi cymorth i’r dysgwr ddatblygu: ei sgiliau dysgu, ei gymhelliant a’i ymgysylltu; ymdopi â throsglwyddo ar fannau allweddol o newid yn ystod y cyfnod 14-19; ac i gynllunio’u llwybr dysgu unigol sy’n ystyried eu sgiliau, eu nodweddion a’u profiad ym mhob agwedd ar eu bywydau.

 

Gall Hyfforddiant Dysgu wneud gwahaniaeth go iawn i ddysgwyr i sicrhau eu bod yn cael cymorth i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i oresgyn rhwystrau i’w dysgu. Dylai’r rhai sy’n cyflenwi’r swyddogaeth hyfforddiant dysgu gyfeirio’r dysgwyr at unrhyw wasanaethau cymorth personol lle maen nhw’n profi rhwystrau i gyflawni eu gwir botensial neu i barhau i ymgysylltu â dysgu. Mae hyn yn cynnwys cymorth gan weithwyr ieuenctid cymwys a phrofiadol sy’n gallu darparu rôl fentora tymor byr, canolig neu hir i ymateb i anghenion y person ifanc er mwyn goresgyn y rhwystrau i ddysgu.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu y dylai fod isafswm cymhareb i’r swyddogaeth hyfforddwr dysgu o 1:80, hyfforddwr dysgu i bobl ifanc. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod pob ysgol a choleg yn ymgyrraedd at y targed o gyflawni hyn erbyn mis Medi 2012. Mae Llywodraeth Cymru’n dal i ddarparu cyllid i hyfforddi hyfforddwyr dysgu drwy arian grantiau 14-19 sy’n cael eu dyrannu i’r rhwydweithiau rhanbarthol. Mae’r Rhaglen Hyfforddiant Dysgu sy’n seiliedig ar unedau ar gael i bob corff dyfarnu i ffurfio cymhwyster Lefel 4 os oes angen.  

 

Yn 2011-12 mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi prosiect peilot hyfforddiant dysgu i ehangu’r cymorth hyfforddwr dysgu llwyddiannus i rai 10-13 oed. Digwyddodd y rhaglenni peilot mewn pedair ardal awdurdod lleol; Sir Penfro, Rhondda Cynon Taf, Ynys Môn a Gwynedd. Nod y rhaglenni peilot oedd archwilio costau a manteision cymharol cyflwyno’r Hyfforddiant Dysgu ar draws ystod oedran 10-13 oed. Gwneir gwerthusiad o’r rhaglenni peilot yr haf hwn.